Cadair Idris

(One Bright Summer Morning)

1. Būm innau'n rhodianna yn nyffryn Llangollen,
Yn dringo y mynydd i Gaer Dinas Brān,
Yn edrych i fyny at Gynwyd a Chorwen
Tra mynydd Rhiwabon yn deifio gan dān.
Mi a welais lān ddyfroedd aberoedd y Berwyn,
A da ardal Dowrdu ar aswy a de,
Ond mi welais lān fwthyn, nis gwn i beth wedyn,
Nis gallwn i weled dim byd ond efe.

2. Disgynnais o'r castell a chroesais yr afon,
Fel curai fy nghalon anghofiaf fi byth;
Ac fel heb yn wybod i'm traed, ar fy union
At dy Jenny Jones ymgyfeiriais yn syth.
Ac er bod hi yn eistedd ym mysg ei chwiorydd,
A'i thad wrth ei hochor yn siarad ā fi,
Gyda'i brawd o'r tu arall, nis gwn i mo'r herwydd,
Ni allwn i weled neb byw ond hyhi.

3. Yn eglwys Llangollen, tra'r clychau yn canu,
Os euthum yn wirion, mi wn pwy a'm gwnaeth,
Unasom ā'n gilydd, byth byth i wahanu
Yn dlawd neu'n gyfoethog, yn well neu yn waeth.
Yna da gennyf wybod, 'nenwedig fy hunan,
Mae Jenny yn gwybod yn well na myfi,
Mae yn dda gennyf ganu, mae'n dda gennyf arian,
Ond ni allaf garu dim byd heblaw hi.

 

copyright © 2008 CelticBritain.net, Alle rechten voorbehouden.