|








|
Cān
y Cadeirio
1. Henffych i'n prifardd ar fuddugol hynt,
Seiniwch ei enw i'r pedwar gwynt.
Hwn ydyw brenin beirdd yr Wyl i gyd,
Cenwch yr utgorn i bedwar ban y byd.
Henffych Brifardd! Gweiniwyd llafn y cledd,
Bloeddiodd yr Eisteddfod yn unfryd, Hedd.
2. Cenwch, gyd-wladwyr, heddiw'n ddiwahardd;
Cenwch wrogaeth i Gadair y Bardd.
Gorsedd dehonglwr ein breuddwydion mud
Gorsedd y Gwir yn erbyn y Byd.
Henffych Brifardd! Gweiniwyd llafn y cledd,
Bloeddiodd yr Eisteddfod yn unfryd, Hedd.
3. Ninnau, gymrodyr, eiliwn ein boddhad;
Calon wrth galon yw cri'r Corn Gwlad.
Llygad goleuni beunydd ar ei lwydd,
Duw a phob daioni iddo'n rhwydd.
Henffych Brifardd! Gweiniwyd llafn y cledd,
Bloeddiodd yr Eisteddfod yn unfryd, Hedd.
|









|
|