Cariwyd y dydd! (Loudly Proclaim!)

1. Cariwyd y dydd! rhown gân a chainc
I ymadawiad brenin Ffrainc.
Ciliodd cyn dydd, a'i lengoedd gydag ef,
Heddiw aeth o'r wlad ddewraf dan y nef.
Dyfroedd o'i hamgylch a chreigiau sydd,
Cartref y dewr, a chrud y rhydd,
Prydain a fu, a Phrydain fydd!

2. Druan o Gâl a theyrn ei thir,
Dod mae gwrthryfel cyn bo hir;
Byr fydd ei hynt, yn frenin ni pharhaiff,
Fory daw yn ôl, lloches yma a gaiff.
Dinas ei noddfa pan ddaw du ddydd,
Cartref y dewr a chrud y rhydd;
Prydain a fu, a Phrydain fydd.

 

 

copyright © 2008 CelticBritain.net, Alle rechten voorbehouden.